Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gyfranogiad yn y Celfyddydau yng Nghymru
Ymateb gan Cwmni'r Frân Wen
1. Pa sefydliad/corff ydych chi’n ei gynrychioli?
Cwmni'r Frân Wen
2. Pa grwpiau o bobl sy’n cyfranogi yng ngweithgareddau celfyddydol eich sefydliad?
Plant a Phobl Ifanc ynghyd â'r cyhoedd yn gyffredinol
3. A ydych yn credu bod newidiadau mewn cyllidebau wedi effeithio ar gyfranogiad yn y celfyddydau, yn gadarnhaol neu’n negyddol?
Negyddol
4. A ydych yn credu bod hyn wedi effeithio mwy ar rai grwpiau o bobl nag eraill?
Mae 'na doriadau sylweddol wedi bod yn ddiweddar ym maes theatr i blant a phobl ifanc yn dilyn Adolygiad Buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru.
5. A oes bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer cyfranogiad yn y celfyddydau, o ran demograffeg neu ddaearyddiaeth?
Mae anghysonderau amlwg yn bodoli yn nhermau'r modd y mae cyllid cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu yn ddaearyddol.
6. A oes digon o ffynonellau ariannu ar gael ar wahân i Gyngor Celfyddydau Cymru? A yw ffynonellau ariannu eraill yn hygyrch?
Mae ffynonellau eraill ar gael ond mae'r broses o ymgeisio yn gystadleuol iawn. Mae meini prawf cynlluniau cyllido Ewropeaidd yn gymhleth ac yn targedu un carfan penodol yn aml iawn e.e. NEETS.
7. Pa rôl y mae’r sector celfyddydau gwirfoddol yn ei chwarae mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru a sut y gellir cefnogi hyn
Rôl amlwg iawn. Angen mwy o gydweithio rhwng y sector celfyddydau gwirfoddol a'r sector celfyddydau proffesiynol.
8. A yw’r berthynas strategol rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff sy’n dosbarthu’r arian i’r celfyddydau yn effeithiol o ran cynyddu cyfranogiad?
Dim ymateb
9. Bydd pob corff cyhoeddus yng Nghymru wedi cyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol erbyn mis Ebrill 2012. A ydych yn credu y bydd y dyletswyddau cydraddoldeb newydd hyn yn y sector cyhoeddus yn helpu i gynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau ymysg grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru?
Bydd.